Mae wyth o blant wedi cael eu hanafu’n ddifrifol ar ôl i lithren ddymchwel mewn ffair tân gwyllt yn Woking yn Surrey.
Fe ddigwyddodd am oddeutu 7.30yh neithiwr (nos Sadwrn, Tachwedd 3).
Yn ôl llygad-dystion, roedd hyd at 40 o blant wedi bod yn chwarae ar y llithren.
Mae’r Gweithgor Iechyd a Diogelwch wedi cael gwybod am y digwyddiad, ac mae’r lleoliad ynghau wrth i ymchwiliad gael ei gynnal.
Mae’r trefnwyr yn dweud iddyn nhw gael “sioc”.