Mae dau eliffant – tair oed, a blwydd a hanner – wedi marw yn Sŵ Caer ar ôl dal feirws.
Roedd y creaduriaid, a oedd yn cael eu nabod gan yr enwau Nandita Hi Way ac Aayu Hi Way yn rhan o gymuned o eliffantod Asiaidd prin, ac fe ddalion nhw’r afiechyd EEHV (endotheliotropic herpesvirus).
Fe fu criw o filfeddygon yn rhoi trallwysiad gwaed iddyn nhw mewn ymgais i achub eu bywydau, ond ofer fu hynny.
Mae’r sŵ wedi rhyddhau datganiad yn dweud eu bod nhw wedi’u tristhau o weld dau lo a oedd wedi tyfu i fod yn hyderus ac yn fywiog ac yn chwareus, yn cael eu taro’n wael fel hyn. Maen nhw hefyd yn tynnu sylw at y ffaith y bydd eliffantod eraill yr haid, yn treulio ychydig ddyddiau yn galaru am y ddau ifanc.
Fe ddaeth ceidwaid y sŵ yn ymwybodol o symtomau’r feirws ddydd Llun (Hydref 22).