Mae cwmni BP wedi cael caniatâd gan yr Awdurdodau Olew a Nwy (OGA) i ddatblygu maes drilio ym Môr y Gogledd, i’r dwyrain o ynysoedd y Shetland yng ngogledd yr Alban.
Trwy ddatblygu eu maes olew Alligin, yn Ardal Schiehallion, gobaith BP yw creu 20 miliwn baril o olew gan ddechrau’r gwaith datbygu yn 2020.
“Fe wnaethon ni gyhoeddi ein bwriad i ddatblygu Alligin ym mis Ebrill,” meddai llefarydd ar ran BP. “Chwe mis yn ddiweddarach, rydyn ni wedi cael caniatâd gan y rheoleiddiwr.
“Rydyn ni’n canolbwyntio ar ddiogelwch, ond rydyn ni hefyd yn moderneiddio ac yn trawsnewid ein ffordd o weithio ym Môr y Gogledd i wireddu potensial ein portffolio.”