Mae cwmni awyrennau Ryanair wedi gweld gostyngiad o 9% yn ei elw, i lawr i £1.3bn cyn treth – a hynny mewn cyfnod o chwe mis.
Mae adroddiad y cwmni o Iwerddon, sy’n cynnig gwasanaeth hedfan rhad, yn dangos eu bod wedi gorfod rhoi rhybudd elw yn gynharach y mis yma.
Maen nhw’n honni bod prisiau tanwydd uwch, costau iawndal, a streiciau gweithwyr wedi bwyta i mewn i’r arian oedd wrth-gefn, o gymharu â’r cynnydd fu yn eu harian refeniw, a gododd 8%, i £4.2bn.
Mae hyder yn y cwmni wedi gostwng yn ddiweddar, gyda llai o bobol yn archebu o flaen llaw.