Mae’r gwasanaethau brys yn ymdrin â gwrthdrawiad rhwng fferi a llongau hwylio ger Ynys Wyth.
Mae lle i gredu bod y fferi wedi taro i mewn i ddwy long hwylio ger y fynedfa i harbwr Cowes, a bod y gwrthdrawiad wedi digwydd o ganlyniad i niwl trwchus.
Cafodd Gwylwyr y Glannau alwad toc ar ôl 8yb heddiw (dydd Sul, Hydref 21).
Dywedodd aelod o’r cyhoedd wrth y gwasanaethau brys iddyn nhw glywed pobol yn galw am gymorth o’r dŵr.
Roedd 56 o bobol ar fwrdd y fferi, ac mae lle i gredu eu bod yn ddiogel ac na chafodd unrhyw un ei anafu.