Mae achos o’r clefyd BSE, sy’n effeithio ar wartheg, wedi cael ei gadarnhau ar fferm yn yr Alban.
Yn ôl swyddogion, mae rheoliadau bellach wedi cael eu gosod ar y fferm – sydd heb gael ei henwi – yn Swydd Aberdeen.
Mae ymchwiliad hefyd yn cael ei gynnal i darddiad y clefyd Bovine Spongiform Encephalpathy, sydd hefyd yn cael ei adnabod yn ‘Glefyd y Gwartheg Gwallgof’.
Daeth i’r amlwg bod anifail ar y fferm yn dioddef o’r clefyd yn ystod profion.
Cafodd miliynau o wartheg eu lladd yng ngwledydd Prydain yn ystod yr 1990au o ganlyniad i’r clefyd, gan achosi niwed mawr i’r diwydiant amaethyddol a chefn gwlad yn gyffedinol.