Mae rhieni yn arbed tros £16 biliwn y flwyddyn trwy lafur rhad ac am ddim neiniau a theidiau, yn ôl ymchwil newydd.
Daw’r ffigwr o adroddiad gan yr elusen The Grandparent Hub, ar drothwy Diwrnod Cenedlaethol Neiniau a Theidiau a fydd yn cael ei gynnal ddydd Sul.
Yn ôl yr elusen mae yna 9 miliwn o neiniau a theidiau yng ngwledydd Prydain yn gofalu am eu hwyrion.
Yn ôl yr ymchwil, ar gyfartaledd mae oedolion yn dod yn nain neu yn daid am y tro cyntaf yn 47.
“Chwalu stereoteipiau”
“Dyw neiniau a theidiau heddiw ddim yn unig yn arwyr sy’n darparu cariad a chymorth i’w teuluoedd, ond maen nhw hefyd yn chwalu stereoteipiau,” meddai Suellen Morris, sefydlydd The Grandparent Hub.
“A gyda’r oedran ar gyfartaledd i berson ddod yn nain neu’n daid am y tro cyntaf yn 47, mae’r hen ddelweddau o neiniau a theidiau yn gwnïo a smocio pibell wedi mynd.
“Mae ein neiniau a’n teidiau yn heini a sionc, yn fodern ac yn llwyr ymwybodol o ffasiynau plant heddiw fel ‘fflosio’ a ‘baby shark’.”