Gydag Adam Price wrth y llyw, mae’n bosib i Blaid Cymru “symud ymlaen” a gosod dyfodol y sylfaen i alluogi cymunedau Cymru i dyfu bwyd a chreu ynni.

Dyna farn Vicky Moller, aelod fydd yn cynnal ‘cyfarfod ymylol’ heddiw yng nghynhadledd y blaid yn Aberteifi, Ceredigion.

Dylai cymunedau Cymru fod yn cynhyrchu bwyd ac egni eu hunain gan fod hynny’n “iachach” ac yn “well i natur”, meddai, ac mae’n dweud bod yr arweinydd newydd yn deall hynny.

“Nawr gydag Adam Price dw i’n credu ei bod hi’n bosib i ni symud ymlaen,” meddai wrth golwg360.

“A dw i’n gyffrous iawn. Hapus iawn, gan ei fod yn ddyn arbennig.

“Mae Leanne yn ardderchog hefyd, ond mae ganddi dipyn o broblem cefnogi aelodau etholedig. Dyw ei management skills ddim yn berffaith… tra bod Adam yn ymwybodol o’i wendidau ei hun.”

“Siomedig”

Roedd Vicky Moller ar restr ranbarthol Canolbarth a Gorllewin Cymru yn ystod etholiad diwethaf y Cynulliad, a daeth yn agos at ennill sedd rhai misoedd yn ôl.

Wedi ymadawiad yr Aelod Cynulliad, Simon Thomas, yn sgil ymchwiliad heddlu, daeth cyfle i Helen Mary Jones gymryd ei sedd gan mai hi oedd yn ail ar y rhestr ranbarthol.

Vicky Miller oedd yn drydydd ar y rhestr honno, a petasai Helen Mary Jones wedi gwrthod y cyfle, mi allai wedi dod yn Aelod Cynulliad.

Wedi cyfnod o bwyso a mesur, daeth Helen Mary Jones yn Aelod Cynulliad Plaid Cymru tros Ganolbarth a Gorllewin Cymru.

“Dw i’n siomedig,” meddai Vicky Moller. “Ond dw i ddim yn gallu gwneud dim byd am hynny. Dw i’n edrych ymlaen at weithio mewn ffordd arall yn awr. Gweithio a chefnogi Adam.”

Digwyddiad ymylol

Bydd Vicky Moller yn cynnal taith trwy Aberteifi gyda “phump arloeswr” lleol yn cymryd rhan.

Ymhlith yr “arloeswyr” yma bydd perchennog marchnad organig a pherchnogion mentrau lleol.