Mae disgwyl i Theresa May gyhoeddi heddiw y bydd treth llywodraeth Prydain ar danwydd yn aros yn ei hunfan am y nawfed flwyddyn yn olynol.

Tro’r Prif Weinidog yw annerch Cynhadledd y Ceidwadwyr yn Birmingham heddiw (dydd Mercher, Hydref 3), ac mae’n awyddus i dawelu amheuon ynglŷn â chynyddu’r dreth ar danwydd.

“Mae nifer wedi amau y bydd yna ddadmer yn y rhewi ar y dreth eleni,” meddai.

“Heddiw fe allaf gadarnhau y bydd y Canghellor, yn ei adroddiad ar y cyllideb yn ddiweddarach yn y mis, yn rhewi’r dreth eto.

“Dyma arian ym mhocedi gweithwyr caled oddi wrth Lywodraeth Geidwadol sydd ar eu hochr.”

“Y dyddiau gorau o’n blaenau”

Mae disgwyl i Theresa May hefyd ddweud bod y dyfodol wedi Brexit yn un sy’n “llawn addewid”.

Daw ei sylwadau ddiwrnod ar ôl i’r cyn-Ysgrifennydd Tramor, Boris Johnson, alw arni i “gael gwared ar Chequers”.

Mae’r Prif Weinidog wedi ymateb trwy ddweud ei bod hi’n “grac” gyda’r cyn-aelod o’i chabinet, ond mae disgwyl iddi sôn am y cyfleon y bydd Brexit yn ei gynnig yn ei haraith heddiw.

“Rydw i wir yn credu bod ein dyddiau gorau o’n blaenau a bod ein dyfodol yn llawn addewid,” meddai.

“Peidiwch â gadael i neb ddweud nad oes ganddon ni’r gallu i wneud hyn: mae ganddon ni bopet sydd ei angen i lwyddo.”