Mae Ysgrifennydd Busnes San Steffan, Greg Clark wedi wfftio galwadau gan y cyn-Ysgrifennydd Tramor, Boris Johnson i ohirio cynllun rheilffordd cyflym HS2.
Yn ôl Greg Clark, byddai gohirio’r cynllun yn “gam hollol anghywir”.
Daw ei sylwadau ar ôl i Boris Johnson awgrymu wrth y Sunday Times y dylid gwella’r cyswllt rheilffordd yng ngogledd Lloegr yn hytrach na chyflymu’r rheilffordd yn ne Lloegr.
Dywedodd Greg Clark, “Rydym wedi gwneud penderfyniad i fuddsoddi yn HS2 – dw i’n credu ei fod yn bwysig i ni fwrw ymlaen gyda hynny.”
Bydd cam cynta’r prosiect – rhwng Llundain a Birmingham – yn agor ym mis Rhagfyr 2026.
Bydd yr ail gam dwy ran yn agor o Orllewin Canolbarth Lloegr i Crewe yn 2027, ac o Crewe i Fanceinion a Birmingham i Leeds yn 2033.