Mae Theresa May wedi gwadu honiadau y gallai hi gynnal etholiad cyffredinol brys ar ôl methiant y trafodaethau yn Salzburg.
“Mae’n gwbl anwir fod Rhif 10 yn cynllunio etholiad sydyn,” meddai llefarydd ar ran Downing Street.
Mae’r sibrydion wedi cael eu gwadu gan yr Ysgrifennydd Brexit, Dominic Raab, hefyd.
Mewn datganiad cynharach, apeliodd y Prif Weinidog am gefnogaeth i’w chynlluniau ar gyfer Brexit.
“Dw i wedi dweud lawer gwaith y byddai’r trafodaethau hyn am fod yn anodd, ac redden nhw’n sicr o fod anoddaf wrth ddynesu at y diwedd,” meddai.
“Ond mae’n amlwg hefyd fod llawer yn y Blaid Lafur, y Democratiaid Rhyddfrydol a’r SNP yn ceisio llesteirio Brexit a cheisio manteisio ar y foment er mwyn elw gwleidyddol.
“Mae rhai yn awr yn galw’n agored am ail refferendwm ac ymestyn erthygl 50 i ohirio Brexit. Mae eraill yn siarad yn uniongyrchol gyda’r Undeb Ewropeaidd i danseilio’r Deyrnas Unedig.
“Ond, dymai’r adeg i roi ein gwlad gyntaf. Dyma’r adeg i roi’n gwahaniaethau o’r neilltuo a dod at ein gilydd mewn undod cenedlaethol. Dyma’r adeg i wneud yr hyn sy’n iawn i Brydain.”