Fe fydd Brexit yn achosi rhagor o raniadau ac yn gwanhau’r berthynas rhwng y Deyrnas Unedig a Gweriniaeth Iwerddon, yn ôl ymchwil newydd.
Mae’r ymchwil, o’r enw BrexitLawNI, wedi’i gynnal ar y cyd rhwng Prifysgol y Frenhines yn Belfast, Prifysgol Ulster a’r Pwyllgor ar Weinyddu Cyfiawnder (CAJ).
Yn ôl yr Athro Colin Harvey, sy’n arwain y prosiect, mae’n pryderu y bydd Brexit yn “fygythiad” i heddwch yng Ngogledd Iwerddon, ac yn “rhannu” dinasyddion Prydain a Gweriniaeth Iwerddon.
‘Dim ffin galed’
Daw’r adroddiad gan y grŵp o arbenigwyr wedi deunaw mis o ymchwil a oedd yn cynnwys cyfweliadau a thrafodaethau gyda gwleidyddion, cynrychiolwyr o’r byd busnes, undebwyr ac ymgyrchwyr.
Mae’r arbenigwyr wedi dod i’r casgliad fod yna “bryder” ynghylch yr effaith hir dymor y bydd Brexit yn ei gael ledled Iwerddon.
Ond er mwyn datrys y broblem, maen nhw’n galw am “ddatrysiad i’r ardal”, sy’n cynnwys cadw Gogledd Iwerddon yn rhan o’r Undeb Dollau a’r Farchnad Sengl a sicrhau na fydd ffin galed yn dod i fodolaeth.
Pe bai ffin galed yn dod, medden nhw, fe fydd hynny’n “tanseilio’r berthynas wleidyddol” rhwng Gogledd Iwerddon a Gweriniaeth Iwerddon, ac yn darged i rai gweriniaethwyr.