Mae heddlu yng ngogledd ddwyrain Lloegr yn ymchwilio, wedi i gorff dyn gael ei ganfod mewn mynwent.

Fe gafodd swyddogion o Heddlu Cleveland eu galw i Fynwent Eston yn Middlesbrough toc cyn tri o’r gloch bnawn ddoe (dydd Mercher, Medi 12).

Wedi iddyn nhw gyrraedd, fe ddaethon nhw o hyd i gorff dyn.

Mae’r farwolaeth yn cael ei thrin fel un heb esboniad, a dyw’r dyn ddim wedi’i adnabod yn ffurfiol eto.