Mae sectorau gwasanaethau ac adeiladu gwledydd Prydain ar eu hanterth, yn ôl ffigurau diweddara’r Swyddfa Ystadegau.
Roedd twf o 0.3% yn yr economi ym mis Gorffennaf – 0.2% yn well na’r disgwyl – tra bod cynnydd o 0.6% mewn Cynnyrch Gwladol Crynswth (GDP) dros gyfnod o dri mis – 0.1% yn well na’r rhagolygon.
Roedd y twf economaidd yn bennaf o ganlyniad i berfformiad y sector gwasanaethau, a dyfodd o 0.3% o fis i fis, diolch yn bennaf i’r diwydiannau proffesiynol, gwyddonol a thechnegol.
Tyfodd y sector gwasanaethau o 0.6% o fis i fis o ganlyniad i fwy o werthiant a manwerthu, gan gynnwys bwyd yn ystod Cwpan y Byd a’r tywydd braf.
Fe wnaeth y sector adeiladu berfformio’n gryf hefyd, gyda thwf o 0.5% ym mis Gorffennaf o ganlyniad i’r cynnydd cyntaf eleni yn nifer y tai a gafodd eu hadeiladu. Tyfodd y sector adeiladu 3.3% dros gyfnod o dri mis.
Roedd gwerth y bunt i fyny 0.15% yn erbyn y ddoler Americanaidd (1.293), oedd yn fwy na’r gymhariaeth yn erbyn yr Ewro (1.118).
Perfformwyr gwael
Ond mae’r Swyddfa Ystadegau wedi tynnu sylw at berfformiad cymharol wael y diwydiant ynni – a hynny o ganlyniad i lai o alw.
Roedd newyddion drwg i’r sector amaeth hefyd, wrth iddo grebachu 0.1%.
Yn dilyn y ffigurau hyd at fis Gorffennaf, mae disgwyl i economi Prydain berfformio’n well na’r disgwyl yn ystod trydydd chwarter y flwyddyn hyd at fis Medi.
Yn ôl rhai arbenigwyr, fe allai Cynnyrch Gwladol Crynswth godi i 0.5% o un chwarter i’r llall – yn hytrach nag aros yn sefydlog ar 0.4% fel yr oedd rhai yn darogan.
Ond dydy’r ffigurau, yn ôl rhai, ddim yn debygol o arwain at Fanc Lloegr yn codi cyfraddau llog ddydd Iau – a hynny’n bennaf o ganlyniad i’r ansicrwydd ynghylch Brexit hyd at fis Mawrth y flwyddyn nesaf.