Mae un o aelodau seneddol mwya’ blaenllaw’r Blaid Lafur yn dweud y dylai arweinydd nesa’r blaid fod yn ddynes.
Roedd Harriet Harman, a fu’n arweinydd dros dro i’r Blaid Lafur rhwng mis Mai a mis Medi 2015, yn siarad yn y Gyngres Ryngwladol o Gyfarfodydd i Ferched Seneddol (dydd Llun, Medi 10).
Dywedodd nad yw ei phlaid erioed wedi cael dynes yn arweinydd, a bod angen i hynny newid pan fydd y blaid yn dewis ei harweinydd nesa’ i olynu Jeremy Corbyn.
“Rhaid i ni gael dynes”
“Yn fy mhlaid, rydym yn ystyried ein hunain yn blaid i ferched,” meddai Harriet Harman.
“Ond eto, mewn 100 mlynedd dydyn ni erioed wedi cael arweinydd sy’n ddynes. Mae’n ymddangos mai dim ond dynion sy’n gallu arwain y Blaid Lafur.
“Y tro nesaf, mae’n rhaid i ni gael dynes.”
Mwy hawliau i ferched
Bu Harriet Harman, sydd wedi bod yn Aelod Seneddol ers 1982 pan oedd 92% o aelodau Tŷ’r Cyffredin yn ddynion, hefyd yn trafod y bygythiadau i’w bywyd a dderbyniodd hi pan gafodd ei hethol y tro cynta’.
Fe ddywedodd fod angen i ferched gymryd achosion o’r fath “o ddifri’”, a bod angen cyflwyno newidiadau i foderneiddio sut mae Tŷ’r Cyffredin yn gweithio.
“Mae’n rhaid i ni adlewyrchu realaeth,” meddai. “Mae merched bellach yn y Senedd, ac mae’n rhaid i ni newid sut mae’r Senedd yn gweithio.
“Mae merched ifanc a merched yn cael plant, ac mae angen rhywbeth fel pleidleisio procsi i famau newydd.
“Mae’r rheiny sydd wedi pleidleisio am ferched angen eu pleidleisiau yn y Senedd. Fe ddylai fod hawl ganddi i neilltuo ei phleidlais i rywun arall fel bod y bobol y mae hi’n eu cynrychioli yn cael eu pleidlais wedi’i chyflwyno.”