Mae undeb diffoddwyr tân wedi dweud y gellid fod wedi osgoi’r tân yn Nhŵr Grenfell pe bai Llywodraeth Prydain wedi talu sylw i rybuddion diogelwch ddegawdau’n ôl.
Yn ôl Matt Wrack, ysgrifennydd cyffredinol undeb FBU, roedd tipyn o “laesu dwylo” yn y llywodraeth wrth ymdrin â pholisi tân.
Dywedodd fod yr undeb wedi rhybuddio pwyllgor dethol yn San Steffan yn 1999 y gallai systemau cladin beryglu bywydau yn dilyn tân tebyg yng Ngogledd Sir Ayr yn yr Alban, lle bu farw dyn.
Mae’r undeb yn dweud iddyn nhw eu rhybuddio y gallai defnyddio rhai mathau o gladin achosi i dân ledu mewn adeiladau – ond nad oedden nhw wedi rhagweld digwyddiad ar raddfa’r tân yn Llundain.
Ac fe ddywedodd mai testun “sgandal” yw fod neb wedi gweithredu ar sail y rhybudd ar ôl 1999.
Daw sylwadau’r undeb wrth i adroddiad gael ei gyhoeddi ar wendidau’r llywodraeth wrth weithredu polisi tân yng ngwledydd Prydain. Mae’r adroddiad yn rhoi’r bai ar lywodraethau Llafur a Cheidwadwyr am “fethu â gwrando”.
Ychwanegodd Matt Wrack fod yr undeb am “weld newid go iawn o ganlyniad i hyn”. Wfftiodd e’r ymadrodd “dysgu gwersi”, gan ddweud bod y llywodraeth yn y gorffennol yn “gwybod am y gwersi” ond nad oedden nhw’n “gweithredu arnyn nhw”.
Dywedodd fod hynny’n “sgandal genedlaethol”.
Ymateb ymgyrchwyr
Yn ôl ymgyrchwyr, mae rhwystredigaeth o hyd ymhlith cymuned Grenfell yn Llundain nad oes ganddyn nhw atebion 15 mis ar ôl i 72 o bobol gael eu lladd yn y tân.
Dywedodd Moyra Samuels ei bod yn “ei chael yn anodd gweld lle bu newidiadau” yn dilyn y tân, a bod yr ymgyrchwyr am gael “y gwirionedd, atebolrwydd a newid”.
Ac mi gyhuddodd y llywodraeth “sydd heb y dewrder a thrugaredd i wahardd cladin”.
Argymhellion brys
Mae cyfreithiwr ar ran teuluoedd Grenfell wedi cyflwyno rhestr o argymhellion brys er mwyn sicrhau diogelwch tenantiaid mewn fflatiau tebyg ledled gwledydd Prydain.
Mae Michael Mansfield QC wedi galw am foratoriwm o’r holl systemau cladin sy’n cynnwys deunyddiau sydd heb eu nodi fel rhai nad ydyn nhw’n ffrwydrol.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Prydain y byddai’r llywodraeth yn amlinellu cynllun gweithredu yn yr hydref, ac yn cyflwyno gwaharddiad ar ddeunyddiau ffrwydrol ar waliau allanol adeiladau preswyl uchel.