Bydd nifer o blant yn profi pyliau difrifol o asthma wrth ddychwelyd i’r ysgol ar ôl gwyliau’r haf.
Dyna rybudd Asthma UK, sefydliad sy’n ymchwilio i’r afiechyd ac sy’n pryderu y gallai nifer yr achosion ddyblu eleni.
Dydi plant ddim yn derbyn meddyginiaeth yn rheolaidd dros yr haf, yn ôl yr elusen, ac felly yn dychwelyd i’r ysgol mewn cyflwr mwy bregus na’r arfer.
Mae Asthma UK wedi erfyn ar rieni i fod yn wyliadwrus, er mwyn rhagweld pyliau cyn iddyn nhw ddigwydd.
Cyngor
“Mae’r pyliau yma yn amhleserus i’r plant â’u rheini,” meddai’r arbenigwr o Asthma UK, Dr Andy Whittamore.
“Ond, mae modd ei osgoi os ydi rhieni yn medru adnabod pryd mae asthma eu plentyn yn gwaethygu, ac os ydyn nhw’n medru adnabod pwl o asthma.
“Os ydi eich plentyn yn defnyddio’u pwmp [inhaler] dros ddwywaith yr wythnos, dylech wneud apwyntiad brys â meddygfa teulu neu nyrs asthma.”
Canfyddiadau
O astudio data iechyd o’r Deyrnas Unedig gyfan – ffigurau 2016 – mae Asthma UK wedi darganfod:
- bod meddygon wedi trin 174% yn rhagor o achosion asthma brys yn ystod y mis pan ddychwelodd plant i’r ysgol
- bod meddygon wedi trin 884 o achosion asthma brys yn ystod y mis cyn i blant dychwelyd i’r ysgol
- bod meddygon wedi trin 2,421 o achosion asthma brys yn ystod y mis wedi i blant dychwelyd i’r ysgol