Mae dynes 51 oed wedi ymddangos gerbron llys yn Llundain heddiw ar gyhuddiad o wneud ffrwydron yn ei chartref yng Nghaerdydd.
Mae Natalie Parsons, 51 oed, wedi’i chyhuddo o ddau gyhuddiad o wneud neu o fod a sylwedd ffrwydrol yn ei meddiant gyda’r bwriad o beryglu bywyd, a phedwar cyhuddiad o fod a dogfennau brawychol yn ei meddiant.
Fe ymddangosodd gerbron Llys Ynadon Westminster ddydd Llun (Medi 3) ar gyfer gwrandawiad i gadarnhau ei henw, cyfeiriad, dyddiad geni a’i bod yn ddinesydd Prydeinig.
Yn dilyn cyrch ar ei chartref Nhrelái yng Nghaerdydd ddydd Mercher diwethaf, honnir bod yr heddlu wedi dod o hyd i’r sylwedd ffrwydrol triacetone triperoxide, sy’n cael ei adnabod fel TATP, yn yr oergell.
Honnir hefyd bod sylwedd arall, hexamethylene triperoxide diamine (HMTD), hefyd wedi ei ddarganfod yn y tŷ.
Cafodd Natalie Parsons ei chadw yn y ddalfa.
Roedd ei phartner, Edward John Harris, 27, wedi mynd gerbron llys ddydd Sadwrn mewn cysylltiad â’r un digwyddiad. Mae disgwyl i’r ddau fynd gerbron yr Old Bailey ar Fedi 27.
Dywedodd heddlu gwrth-frawychiaeth nad oes tystiolaeth am unrhyw fygythiad penodol yng Nghaerdydd.