Mae’r elusen Relate Cymru yn disgwyl mwy o alwadau yn ystod tymor yr hydref, a hynny wrth i gyplau deimlo fod eu perthynas dan straen wedi gwyliau’r haf.
Yn ôl yr elusen, maen nhw’n tueddu i weld cynnydd yn nifer y galwadau yn ystod mis Medi.
Mae’r rhesymau am hynny, medden nhw, yn cynnwys tensiynau dros drefnu gofal plant yn ystod gwyliau’r ysgol, a threulio pob diwrnod gyda phartner.
“Dechrau ffres”
Yn ôl Prif Weithredwr Relate Cymru, Gwilym Roberts, mae’n well chwilio am gymorth “cyn gynted â phosib” pan mae tensiynau yn dod i’r amlwg mewn perthynas.
“Mae pobol yn tueddu i beidio â chwilio am gefnogaeth tan ar ôl yr haf pan mae plant wedi dychwelyd i’r ysgol,” meddai.
“Mae mis Medi yn ddechrau blwyddyn ysgol newydd ac fe all fod yn amser da i gael dechrau ffres.
“Ond fynychaf yn ystod y cyfnod hwn, mae pethau yn barod wedi cyrraedd y pwynt o argyfwng, gyda phlant o bosib wedi bod yn dyst i ffraeo a all effeithio ar eu lles a’u perfformiad yn yr ysgol.
“Felly mae’n well cysylltu â Relate cyn gynted â phosib.”
Y ffigyrau
Mae ymchwil gan Relate yn dangos bod un person o bob pump yn y Deyrnas Unedig mewn perthynas sydd o dan straen, gyda rhieni plant o dan 16 oed ymhlith y rheiny sydd fwyaf tebygol o gael eu heffeithio.
Mae Relate hefyd yn dweud bod 91% o’u cleientiaid yn dweud bod eu perthynas “ychydig yn well” neu “dipyn yn well” ar ôl sesiynau cwnsela.
Mae 84% wedyn yn dweud eu bod yn gallu goresgyn unrhyw anawsterau a ddaw gyda’r dyfodol.