Mae dyn o Belfast wedi cael anafiadau i’w fraich ar ôl i siarc ei frathu oddi ar arfordir Cork.
Roedd y dyn yn pysgota pan ddigwyddodd yr ymosodiad nos Sadwrn.
Cafodd Gwylwyr y Glannau eu galw am oddeutu 6 o’r gloch, a chafodd y dyn ei drosglwyddo i’r ysbyty mewn ambiwlans.
Mae digwyddiadau o’r fath yn anghyffredin yn Iwerddon.