Mae miloedd o gwsmeriaid yng Nghymru yn debyg o weld newid yn eu cwmni trydan wrth i ddau o’r busnesau mwya’ yn y maes symud yn nes at uno.
Mae’n edrych yn debyg bellach y bydd SSE, perchnogion SWALEC – y busnes a ddaeth yn lle hen fwrdd trydan de Cymru – yn uno gydag Npower.
Ar ôl cynnal ymchwiliad i’r syniad, mae’r Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd (CMA) pnederfynu o blaid.
‘Dim effaith ar brisiau sylfaenol’
Roedd y ddau gwmni wedi cyhoeddi eu bwriad i uno ers mis Tachwedd y llynedd, ond roedd pryderon ynghylch y ffaith y byddai’r uno’n gwanhau’r farchnad ynni, yn benodol y tariffiau sylfaenol amrywiol (SVTs).
Ond mae’r CMA wedi dod i’r casgliad na fydd yr uno’n effeithio ar y tariffau hyn, gan nad yw’r ddau gwmni yn cystadlu â’i gilydd yn y maes.
Maen nhw hefyd yn dweud bod yna gystadleuaeth yn y farchnad o hyd, gyda digon o gyfle i bobol chwilota am y prisiau gorau.
“Digon o ddewis”
“Gyda mwy na 70 o gwmnïau ynni, rydym wedi casglu bod yna ddigon o ddewis ar gael pan mae pobol yn chwilota,” meddai Anne Lambert, cadeirydd yr ymchwiliad.
“Ond dyw llawer o bobol ddim yn chwilota digon am eu hynni, felly fe wnaethon ni gynnal adolygiad ar y cytundeb, yn benodol ar y ffordd y bydd yn effeithio ar bobol sy’n talu’r prisiau sylfaenol amrywiol drutaf.”
“Mae ein hadolygiad yn dangos na fydd yr uno yn effeithio ar sut mae SSE ac Npower yn gosod eu prisiau SVT oherwydd nad ydyn nhw’n gystadleuwyr agos ar gyfer y cwsmeriaid hyn.”