Mae’r cwmni benthyciadau brys, Wonga, wedi rhoi’r gorau i gymryd cwsmeriaid newydd wrth iddo baratoi ar gyfer y posibilrwydd o fynd i ddwylo derbynwyr.

Mae disgwyl datganiad yn ddiweddarach heddiw am ddyfodol y cwmni sydd wedi cael ei feirniadu yn y gorffennol am godi cyfraddau llog anferth.

Mae hefyd wedi cynnal trafodaethau gyda’r Awdurdod Gwasanaethau Ariannol am yr effaith ar ei gwsmeriaid pe bai’n mynd i’r wal.

‘Asesu opsiynau’

“Tra’i fod yn parhau i asesu ei opsiynau, mae Wonga wedi penderfynu rhoi’r gorau i dderbyn ceisiadau am fenthyciadau,” meddai mewn datganiad ar ei wefan.

Mae’r cwmni’n rhoi’r bai am ei drafferthion ar gynnydd mewn pobol sy’n hawlio iawndal am fenthyciadau cyn 2014.

Dyna pryd y cyfaddefodd y cwmni ei fod wedi benthyg arian i bobol gan wybod na allen nhw fforddio talu’n ôl.