Mae papurau Llundain a’r marchnadoedd ariannol wedi cynhyrfu gydag awgrym y gallai’r Undeb Ewropeaidd gynnig cytundeb masnach unigryw i’r Deyrnas Unedig.

Fe ddaeth y sylw gan brif drafodwr yr undeb, Michel Barnier ac mae gwerth y bunt wedi codi’n sylweddol o ganlyniad – o leia’ 1%.

“Rydym yn barod i gynnig partneriaeth â Phrydain – partneriaeth nad ydym erioed wedi ei sefydlu â gwlad arall,” meddai Michel Barnier.

Er hynny, mae wedi mynnu na fydd yr undeb yn cyfaddawdu tros y farchnad sengl, ac wedi galw ar wledydd Prydain i “barchu” hynny.

“Dydy gwledydd Prydain ddim eisiau cyfaddawdu tros rai materion, ac rydym yn parchu hynny,” meddai. “Ond rhaid iddyn nhw barchu’r hyn ydyn ni hefyd.”