Mae myfyrwyr Cymru’n wynebu mwy o ddyledion oherwydd newidiadau i’r drefn grantiau.
Dyma rybudd y Sefydliad Polisi Addysg Uwch sy’n dweud y bydd bethyciadau er mwyn talu ffioedd yn mwy na dyblu.
Yn ôl adroddiad ganddyn nhw am drefniadau cyllido newydd Cymru, fe fydd rhai myfyrwyr yn gweld dyledion yn codi bedair gwaith a’r myfyrwyr tlota’n derbyn £500 yn llai o arian parod yn eu llaw.
Dim grant ffioedd
Wrth i’r flwyddyn academaidd newydd ddechrau ymhen mis, fydd myfyrwyr Cymru ddim yn derbyn grant ar gyfer eu ffioedd academaidd.
Ac, er y bydd yna grant cyffredinol ar gyfer costau byw, mae’r Sefydliad yn awgrymu y bydd benthyciadau costau byw yn codi hefyd.
Fe fydd llai o bwysau ar rieni i dalu costau byw eu plant ond mae hynny, meddai’r adroddiad, yn mynd yn groes i’r angen i gael mwy o degwch economaidd rhwng y cenedlaethau.
Problem arall, madden nhw, yw diffyg dealltwriaeth o’r drefn ymhlith myfyrwyr o rannau eraill o wledydd Prydain.
Beirniadu’r Llywodraeth
“Yng Nghymru, mae Ysgrifennydd Cabinet o’r Democratiaid Rhyddfrydol o fewn Llywodraeth Lafur yn gwneud ffioedd dysgu uchel yn norm drwy waredu’r hen grant ffioedd yn ogystal â chyflwyno grant cynnal unffurf,” meddai Nick Hillman, Cyfarwyddwr y Sefydliad.
“Mae hyn yn drawiadol oherwydd, yn San Steffan, mae’r ddwy blaid hyn wedi galw am symud oddi wrth ffioedd uwch.
“Ac eithrio’r SNP, mae’n parhau’n wir fod y prif bleidiau gwleidyddol fel pe baen nhw’n cefnogi ffioedd dysgu uwch pan fyddan nhw mewn grym, ond yn eu gwrthwynebu nhw pan fyddan nhw’n wrthbleidiau.”