Mi allai plant yn Lloegr gael ei gwahardd rhag prynu ‘diodydd ynni’, dan gynlluniau Llywodraeth San Steffan.
Diodydd sy’n llawn caffein a siwgr yw’r diodydd yma, ac mae’n debyg eu bod yn medru achosi llu o broblemau iechyd gan gynnwys gordewdra.
Yn awr, mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi lansio ymgynghoriad cyhoeddus er mwyn penderfynu os oes angen cyflwyno gwaharddiad.
Mae gan Gymru, ynghyd â’r pwerau datganoledig eraill, bwerau i gyflwyno gwaharddiadau eu hunain ac mae ymgyrch wedi bod ar droed ers tro am wahardd diodydd siwgr.
Cyfrifoldeb
“Mae gyda ni gyd gyfrifoldeb i amddiffyn ein plant rhag cynnyrch sydd yn niweidio eu hiechyd â’u haddysg,” meddai’r gweinidog Iechyd Cyhoeddus, Steve Brine.
“Mae ein plant eisoes yn yfed 50% yn fwy o’r diodydd yma na’u cyfoedion yn Ewrop, ac mae athrawon yn credu bod yna gysylltiad rhwng diodydd ynni ac ymddygiad gwael yn y dosbarth.”
Ffigurau
- Mae 2/3 o blant 10-17 yn yfed diodydd ynni
- Mae chwarter o blant chwech i naw yn yfed y diodydd yma
- Cafodd 699 miliwn litr o ddiodydd ynni eu gwerthu y llynedd yn y Deyrnas Unedig