Mae adroddiadau am niferoedd cynyddol o aelodau newydd wedi ymuno â changennau lleol o’r Blaid Geidwadol dros yr wythnosau diwethaf.

Mae amheuon fod y cynnydd yn rhan o gynllwyn i gael gwared ar Theresa May fel arweinydd, a gwthio’r blaid ar drywydd mwy gwrth-Ewropeaidd.

Mae’r llif o aelodau newydd wedi bod yn arbennig o amlwg ers cytundeb Chequers y mis diwethaf, ac mae’n cael ei ddisgrifio gan rai fel rhyw fath o ‘Momentum glas’.

Mewn arolwg gan y Sunday Times, roedd 42 allan o 75 o gangennau etholaethau wedi gweld cynnydd mewn aelodaeth ers i gytundeb Chequers gael ei gytuno gan y Cabinet.

Yn ôl John Strafford, cadeirydd grŵp sy’n ymgyrchu dros fwy o lais i aelodau cyffredin y Torïaid ar lawr gwlad, daw llawer o’r cynnydd gan gyn-aelodau Ukip yn ail-ymuno er mwyn pleidleisio yn erbyn Theresa May mewn etholiad arweinyddol. O dan reolau presennol y blaid, gall unrhyw un sydd wedi bod yn aelod am fwy na thri mis bleidleisio.

Daw’r cynnydd ar ôl i’r miliwnydd dadleuol Arron Banks, a roddodd arian mawr i’r ymgyrch dros Brexit, alw ar gefnogwyr Brexit i ymuno â’r Torïaid er mwyn gwrthod cytundeb Chequers a chael gwared ar Theresa May.