Cafodd dyn yn ei 20au ei drywanu i farwolaeth yn ne-ddwyrain Llundain nos Sadwrn.

Cafwyd hyd iddo ag anafiadau yn ardal Deptford am oddeutu 11.45yh, a’i gludo i’r ysbyty yn ne Llundain, lle bu farw’n ddiweddarach.

Does neb wedi’i arestio ond mae’r heddlu’n ymchwilio i’r digwyddiad ac yn trin ei farwolaeth fel achos o lofruddio.

Mae disgwyl i archwiliad post-mortem gael ei gynnal yn ddiweddarach.

Daw’r digwyddiad ddyddiau’n unig ar ôl i’r heddlu ddechrau ymchwilio i lofruddiaeth dynes a gafodd ei llosgi mewn tân mewn fflat.

Mae’r heddlu’n apelio am wybodaeth.