Mae teyrngedau wedi’u rhoi i’r gwleidydd Americanaidd John McCain, sydd wedi marw’n 81 oed ar ôl bod yn cael triniaeth ers blwyddyn am diwmor ar ei ymennydd.

Roedd yn Seneddwr ar dalaith Arizona am chwe thymor, ac yn ymgeisydd arlywyddol aflwyddiannus yn 2008, pan gafodd Barack Obama ei ethol, a chyn hynny yn 2000 pan gafodd George Bush ei ethol.

Cyn mentro i’r byd gwleidyddol yn Weriniaethwr, cafodd ei gadw’n garcharor rhyfel am dros bum mlynedd yn ystod Rhyfel Fietnam.

Teyrngedau

Yn dilyn y newyddion am ei farwolaeth ddydd Sadwrn, dywedodd yr Arlywydd Donald Trump ei fod yn anfon ei “gydymdeimlad a pharch dwysaf” at ei deulu.

Diolchodd Melania Trump, gwraig yr Arlywydd, iddo am ei wasanaeth i’r genedl.

Dywedodd y cyn-Arlywydd Barack Obama ei fod e a John McCain yn rhannu “ymddiriedaeth i rywbeth uwch – y ddelfryd y mae cenedlaethau o Americanwyr a mewnfudwyr fel ei gilydd wedi brwydro, gorymdeithio ac aberthu ar ei chyfer”.

Dywedodd ei bod yn “fraint, rhywbeth nobl” cael brwydro’n wleidyddol yn erbyn ei gilydd.

Ychwanegodd George W Bush fod John McCain yn “ddyn o argyhoeddiad dwfn ac yn wladgarwr o’r radd flaenaf”, gan ychwanegu ei fod yn “ffrind y byddaf yn gweld ei eisiau’n fawr”.

Mae disgwyl iddo gael ei gofio yn Arizona a Washington cyn ei angladd yn ddiweddarach yn yr wythnos.

Teyrngedau’r teulu

Ar ei thudalen Twitter, dywedodd gwraig John McCain, Cindy ei bod yn torri ei chalon ar ôl colli “dyn anhygoel”.

“Mae fy nghalon wedi’i thorri,” meddai. “Dw i mor lwcus o fod wedi cael byw’r antur o garu’r dyn anhygoel hwn am 38 o flynyddoedd. Fe fu farw’r ffordd y bu byw, ar ei delerau ei hun, wedi’i amgylchynu gan y bobol yr oedd yn eu caru, yn y lle yr oedd yn ei garu fwyaf.”

Dywedodd ei ferch Meghan bod ei thad yn “dân mawr oedd wedi llosgi’n llachar”.

“Roedden ni’n byw yn ei oleuni a chynhesrwydd am gyhyd. Rydyn ni’n gwybod fod ei fflam yn fyw o hyd ym mhob un ohonon ni.

“Aeth ei gariad a’i ofal, oedd yno bob amser yn ddiwyro, â fi o fod yn ferch i fod yn fenyw – ac fe ddangosodd i fi beth yw bod yn ddyn.”