Mae Jeremy Corbyn wedi ymddiheuro wrth Iddewon am y loes sydd wedi’i achosi gan y ffrae tros wrth-Semitiaeth honedig o fewn y Blaid Lafur.
Daw’r ymddiheuriad yn dilyn sawl rhybudd am y niwed y mae’r ffrae wedi’i achosi i’r blaid yn ddiweddar.
Fe wnaeth e gydnabod fod yn broblem o fewn y blaid, a bod pobol sy’n gwadu hynny yn “cyfrannu at y broblem” honno.
Yn gynharach, roedd ei ddirprwy Tom Watson wedi rhybuddio bod yr helynt mewn perygl o osod y blaid mewn “fortecs o gywilydd tragwyddol” oni bai ei bod yn gwrando ar bryderon pobol Iddewig.
Diffinio gwrth-Semitiaeth
Mae’r dirprwy arweinydd hefyd yn galw am fabwysiadu diffiniad rhyngwladol o wrth-Semitiaeth.
Dydy’r Blaid Lafur ddim wedi bod yn barod i wneud hynny hyd yn hyn, gyda nifer o Iddewon yn cyhuddo Jeremy Corbyn o “atgasedd ideolegol” tuag at ddiffiniad Cynghrair Genedlaethol Cofio’r Holocost o wrth-Semitiaeth, a’r enghreifftiau sydd wedi’u nodi ganddyn nhw.
Ymddiheuriad – “ddim yn fy enw i nac yn enw fy mhlaid”
Mewn neges fideo, dywedodd Jeremy Corbyn fod gwaredu safbwyntiau gwrth-Semitaidd o’r Blaid Lafur ac adennill ffydd Iddewon yn “flaenoriaethau hanfodol”.
Dywedodd fod yn flin ganddo am y “loes sydd wedi’i achosi i gynifer o bobol Iddewig”, a bod y blaid wedi “bod yn rhy araf” wrth ymdrin ag achosion o wrth-Semitiaeth yn ymwneud ag aelodau.
Ychwanegod nad oes “lle i bobol sy’n arddel safbwyntiau gwrth-Semitaidd” o fewn y Blaid Lafur, ond fod nifer yr achosion dros y blynyddoedd diwethaf yn cyfateb i lai na 0.1% o aelodau’r blaid.
“Rhaid i’n plaid beidio byth â bod, ac ni fydd fyth yn gartref i’r fath bobol. Mae angen i bobol sy’n defnyddio gwenwyn gwrth-Semitaidd ddeall: dydych chi ddim yn ei wneud yn fy enw i nac yn enw fy mhlaid. Nid ein cefnogwyr ni ydych chi.
“Ac mae unrhyw un sydd yn gwadu bod hyn wedi ymddangos o fewn ein plaid yn amlwg yn hollol anghywir ac yn cyfrannu at y broblem.”