Er ei bod ar wyliau yn swyddogol, mae Theresa May yn bwriadu cwrdd ag Arlywydd Ffrainc wrth iddi ddwysau ei hymdrechion i ennill cefnogaeth Ewrop i’w chynlluniau Brexit.
Fe fydd y Prif Weinidog yn cwrdd ag Emmanuel Macron yn ei lety gwyliau, Fort de Bregancon, ar ynys fechan ger arfordir Ffrainc.
Mae disgwyl i Theresa May a’i gwr Philip gael cinio preifat gyda’r arlywydd a’i wraig Brigitte.
Mae’r Prif Weinidog wedi dod a’i gwyliau yn yr Eidal i ben ddiwrnod yn gynt na’r disgwyl er mwyn cynnal trafodaethau gydag Emmanuel Macron.
Ond mae hi wedi cael rhybudd i beidio disgwyl unrhyw ddatblygiadau mawr yn y trafodaethau.
Mae cyn-lysgennad y Deyrnas Unedig yn Ffrainc, yr Arglwydd Ricketts, wedi dweud mai Emmanuel Macron yw’r “person olaf” sydd eisiau mynd yn groes i’r Undeb Ewropeaidd er mwyn pwyso ar Frwsel i dderbyn ei chynlluniau Brexit.
Daw hyn ar ôl i’r Ysgrifennydd Brexit Dominic Raab gynnal trafodaethau ym Mharis ddydd Iau.
Mae prif negodwr Brexit yr UE, Michel Barnier, hefyd wedi rhybuddio y bydd rhai o gynlluniau Brexit Theresa May yn “tanseilio’r” farchnad sengl.