Mae’r tebygolrwydd y bydd y Deyrnas Unedig yn gadael yr Undeb Ewropeaidd “yn cynyddu o ddydd i ddydd”, yn ôl Ysgrifennydd Tramor llywodraeth Prydain, Jeremy Hunt.
Daw ei sylwadau wrth iddo gynnal trafodaethau gyda gweinidogion yn Ffrainc ac Awstria.
Yn y cyfamser, mae’r Prif Weinidog, Theresa May, yn cynnal trafodaethau gydag Arlywydd Ffrainc, Emmanuel Macron.
Mae’r cyfarfodydd hyn yn ymgais gan Lywodraeth Prydain i ennill cefnogaeth gan arweinwyr Ewrop, wrth i’r dyddiad cau ar gyfer gadael yr Undeb Ewropeaidd agosáu.
Rhybudd i Ewrop
“Mae’r tebygolrwydd o ddim cytundeb yn cynyddu o ddydd i ddydd hyd nes y byddwn nin gweld newid yn agwedd y Comisiwn Ewropeaidd sy’n credu bod angen aros tan bo’r Deyrnas Unedig yn ildio,” meddai Jeremy Hunt
“Mae yna siawns go dda y bydd dim cytundeb trwy ddamwain.
“Mae pob un yn meddwl, ‘na, na, na, wnaiff hynny ddim digwydd’. Wel, mewn gwirionedd, fe all ddigwydd.”
“Mae angen i Ffrainc a’r Almaen anfon neges gref i’r Comisiwn bod angen inni drafod canlyniad pragmataidd a doeth a fydd yn amddiffyn swyddi ar ddwy ochr i’r sianel.
“Oblegid, am bob swydd sy’n cael ei cholli yn y Deyrnas Unedig, fe fydd yna swyddi’n mynd yn Ewrop hefyd os bydd Brexit yn mynd yn anghywir.”