Mae un o bwyllgorau San Steffan wedi cynnig beirniadaeth hallt o elusennau dyngarol, yn sgil sgandal rhyw o fewn y sector.  

Yn ôl y Pwyllgor Datblygiad Rhyngwladol, mae elusennau yn “goddef a bron yn caniatáu” eu staff a’u gwirfoddolwyr i gamymddwyn yn rhywiol.

A dyw’r sector ddim wedi llwyddo mynd i’r afael a’r broblem yn iawn, meddan nhw mewn  adroddiad sy’n cael ei gyhoeddi heddiw (Gorffennaf 31).

“Wrth wynebu’r honiadau, dyw sefydliadau dyngarol a’r Cenhedloedd Unedig methu parhau â’u ‘diwylliant o wadu’,” meddai Cadeirydd y Pwyllgor, Stephen Twigg.

“Mae ymateb y sector yn y gorffennol wedi pryderu’r pwyllgor yn fawr. Doedd dim llawer o ymdrech i fynd i’r afael â’r problemau yn iawn. Osgoi trem y cyfryngau oedd eu nod.

“Rhaid dod o hyd i atebion. Rhaid mynd i’r afael â’r sefyllfa arswydus yma.”  

Argymhellion

Mae adroddiad y pwyllgor yn galw er elusennau i ymateb yn llym i achosion o gamymddwyn rhywiol, ac i flaenoriaethu “tryloywder tros gadw enw da”.

Hefyd, hoffai’r Aelodau Seneddol weld cofrestr o weithwyr dyngarol  yn cael ei sefydlu, fel bod gan elusennau gwell syniad o gefndiroedd eu gweithwyr.

Daw cyhoeddiad yr adroddiad yn sgil sgandal ecsbloetio rhywiol Haiti, chwe mis yn ôl.