Mae bachgen pum mlwydd oed o wledydd Prydain wedi boddi mewn pwll nofio yn yr Algarve, yn ôl adroddiadau.

Mae lle i gredu ei fod e ar ei wyliau gyda’i deulu yn Amendoeira ger tref Silves.

Fe gafodd ei dynnu o’r pwll brynhawn dydd Sadwrn, ond fe fu farw.

Mae ei farwolaeth yn cael ei thrin fel un ddamweiniol.

Mae’r Swyddfa Dramor yn cynnig cefnogaeth i’w deulu.