Mae pump o bobol wedi’u lladd a phump arall wedi’u cludo i’r ysbyty yn dilyn gwrthdrawiad yng ngogledd ddwyrain yr Alban.

Tarodd dau gerbyd yn erbyn ei gilydd – bws mini a char – ar yr A96 ger Moray, toc cyn canol nos ddydd Iau (Gorffennaf 26).

Mae un o’r bobol yn dioddef o anafiadau a allai fod yn rhai angheuol.  

Yn ôl Aelod Senedd Albanaidd Moray,mae’r heol ymhlith un o rai prysuraf yr Alban, ac mae’r ddamwain yn “wirioneddol ddychrynllyd”.

“Mae’r ffaith bod cymaint wedi’u hanafu yn anodd ei brosesu,” meddai Richard Lochhead.

“Mae pawb yn cofio at y teulu, ac yn cydymdeimlo â nhw yn ystod y cyfnod anodd yma.”

Mae heddlu’r Alban yn apelio am wybodaeth, ac mae rhan o’r A96 yn dal i fod ar gau i’r cyhoedd.