Mae llefarydd ar ran y Prif Weinidog, Theresa May, wedi mynnu bod Llywodraeth Prydain yn dal i wrthwynebu’r gosb eithaf.
Daw hyn ar ôl i lythyr gael ei ddatgelu a oedd yn nodi na fydd y Swyddfa Gartref yn gwrthwynebu cynlluniau’r Unol Daleithiau i gyflwyno’r gosb eithaf yn achos dau ddyn o wledydd Prydain sydd wedi’u cyhuddo o ymladd gydag eithafwyr Islamaidd.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Cartref, Sajid Javid, wrth y Twrnai Cyffredinol, Jeff Sessions, na fydd cais yn cael ei wneud yn yr achos yma i rwystro Alexanda Kotey ac El Shafee Elsheikh rhag wynebu’r gosb eithaf.
Ychwanegodd Sajid Javid fod llysoedd yr Unol Daleithiau mewn sefyllfa well i ddeilio â’r mater, ac nad oedd y penderfyniad yn adlewyrchu newid ym mholisi Llywodraeth Prydain.
‘Sicrhau cyfiawnder’
Yn ôl swyddfa’r Prif Weinidog, mae Llywodraeth Prydain yn gwrthwynebu’r gosb eithaf fel egwyddor “ym mhob sefyllfa”, ond mai’r flaenoriaeth yn yr achos hwn, meddai, oedd “sicrhau bod y dynion hyn yn cael eu herlyn.”
“Fe gafodd y penderfyniad ei wneud gan yr Ysgrifennydd Cartref a’r cyn-Ysgrifennydd Tramor (Boris Johnson), ac roedd y Prif Weinidog yn ymwybodol o’r penderfyniad,” meddai’r datganiad.
“Ond mae’n flaenoriaeth gan bawb bod y dynion hyn yn wynebu cyfiawnder trwy gael eu herlyn.
“Rydym yn parhau i gysylltu â Llywodraeth yr Unol Daleithiau ar y mater. Rydym am sicrhau eu bod nhw’n wynebu cyfiawnder yn yr awdurdodaeth fwyaf addas a fydd yn cynyddu’r siawns am erlyniad llwyddiannus.”