Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi penodi wyth swyddog amaeth newydd a fydd yn ceisio mynd i’r afael â phroblemau llygredd yng nghefn gwlad.
Fe fydd y swyddogion yn cydweithio â ffermwyr ledled Cymru, gan roi cyngor iddyn nhw ynglŷn â sut i atal llygredd a sicrhau eu bod nhw’n cydymffurfio â’r safonau.
Fe fyddan nhw’n gweithio yn yr ardaloedd hynny sydd gyda’r problemau llygredd mwya’, gan ganolbwyntio yn benodol ar ffermydd llaeth.
Mae’n rhan o’u gwaith nhw hefyd eu bod yn helpu i ddatblygu syniadau, technoleg a dulliau newydd er mwyn lleihau llygredd amaethyddol.
Wrth ddatblygu eu strategaeth, bu Cyfoeth Naturiol Cymru yn cydweithio â gwahanol bartneriaid, gan gynnwys undebau’r ffermwyr, Dŵr Cymru, Afonydd Cymru, Cyswllt Ffermio a Chyswllt Coedwigaeth.
“Datrys llygredd amaeth”
“Caiff safon dŵr Cymru ei effeithio gan sawl ffactor, ac mae amaethyddiaeth yn un ohonynt,” meddai Hywel Manley, Rheolwr Gweithrediadau Cyfoeth Naturiol Cymru yn y de-orllewin.
“Dyna pam ein bod ni’n gweithio gyda’r diwydiant fel rhan o ymgyrch ddyrys i ddatrys llygredd amaeth, gan adlewyrchu’r safonau uchel sydd gennym yn y diwydiant amaeth yng Nghymru.”