Mi fydd cyfarfod yn cael ei gynnal rhwng ASau ac Arglwyddi’r Blaid Lafur heddiw er mwyn trafod polisi gwrth-semitiaeth y blaid.
Daw hyn yn dilyn cwynion bod cod ymddygiad newydd y Blaid Lafur ynghylch gwrth-semitiaeth, a gafodd ei gyflwyno’r wythnos ddiwetha’, ddim yn ddigonol.
Mae’r cod newydd yn cydnabod y diffiniad o wrth-semitiaeth sy’n cael ei nodi gan Gynghrair Rhyngwladol Cofio’r Holocost (IHRA).
Ond yn wahanol i’r sefydliad hwnnw, dyw cod y Blaid Lafur ddim yn dilyn pedair enghraifft benodol, sy’n cynnwys:
- Cyhuddo Iddewon o fod yn fwy ffyddlon i Israel na’u gwlad enedigol;
- Honni bod bodolaeth Israel fel gwlad yn ymgais hiliol;
- Disgwyl safon uwch o ymddygiad wrth Israel;
- Cymharu polisïau Llywodraeth Israel i rai’r Natsïaid.
Beirniadu Jeremy Corbyn
Un sydd wedi bod yn llafar ei barn ynghylch y cod newydd yw’r Aelod Seneddol Iddewig, Margaret Hodge.
Fe feirniadodd hi’r cod newydd yr wythnos ddiwetha’, cyn honni bod Jeremy Corbyn “bellach yn cael ei ystyried gan nifer yn wrth-Semitaidd.”
Mae arweinydd y Blaid Lafur wedi ymateb trwy ddweud bod Margaret Hodge bellach yn wynebu cael ei disgyblu yn sgil ei sylwadau.
Mae hefyd wedi amddiffyn y cod newydd, gan ychwanegu bod y Blaid Lafur wedi derbyn diffiniad yr IRHA yn gyfan.
“Doedd yr NEC ddim yn ceisio ei ailysgrifennu, ond yn hytrach ei dderbyn yn gyfan,” meddai Jeremy Corbyn.
“Beth mae[‘r NEC] hefyd wedi’i wneud yw rhoi gydag e god o ymddygiad ar gyfer y blaid oherwydd dydyn ni ddim yn derbyn gwrth-Semitiaeth ar unrhyw ffurf o fewn y blaid.”