Mae’r ymgyrch Brexit swyddogol, Vote Leave, wedi derbyn dirwy o £61,000 yn dilyn refferendwm yr Undeb Ewropeaidd yn 2016, ac mae’r achos wedi’i gyfeirio at yr heddlu.
Daw hyn wedi i’r Comisiwn Etholiadol ddod i’r casgliad bod y grŵp wedi torri cyfraith etholiadol.
Gwariodd Vote Leave rhyw £500,000 yn ormod ar eu hymgyrch, meddai’r comisiwn, ac fe lwyddon nhw i wneud hynny trwy weithio â chorff arall, sef BeLeave.
Hefyd, cafodd “adroddiant gwariant gwallus ac anghyflawn” ei ddarparu gan y grŵp, meddai’r Comisiwn Etholiadol.
Mae sefydlydd BeLeave, Darren Grimes, hefyd wedi derbyn dirwy ac wedi ei gyfeirio at yr heddlu -gwnaeth y grŵp wario £665,000 yn ormod.
“Gwrthwynebu”
“Ers y dechrau mae Vote Leave wedi gwrthwynebu ein hymchwiliad, ac wedi dadlau nad oedd gennym ni’r hawl i gynnal ymchwiliad,” meddai Bob Posner, Cyfarwyddwr Cyllid Gwleidyddol y Comisiwn Etholiadol.
“Maen nhw wedi gwrthod ein helpu, wedi gwrthod cais am ymweliad â chynrychiolydd, ac wedi ein gorfodi i ddefnyddio pwerau cyfreithiol i’w gorfodi nhw i ddarparu tystiolaeth.
“Fodd bynnag, mae’r dystiolaeth sydd gennym yn glir ac mae llawer ohono.”