Mae ymchwiliad llofruddiaeth wedi’i lansio i farwolaeth merch chwe blwydd oed, a fu farw yn un o ynysoedd yr Alban.
Roedd Alesha MacPhail ar wyliau yn Ynys Bute, a’n aros â pherthnasau yno, pan gafodd ei darganfod yn farw mewn coedwig gan aelod o’r cyhoedd.
Cafodd ei darganfod ar fore Llun (Gorffennaf 2), dim ond tair awr wedi i’r heddlu dderbyn adroddiadau bod y ferch ar goll.
Daw lansiad yr ymchwiliad yn sgil archwiliad post-mortem o’r corff – dyw’r heddlu heb gyhoeddi sut y bu iddi farw.
Mae ditectifs wedi apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â nhw, ac mae swyddogion wedi galw ar i gymuned glos yr ynys fod yn wyliadwrus.