Mae’r gwasanaeth tân wedi dechrau ar eu seithfed diwrnod o geisio diffodd tân gweundir mawr yn Swydd Gaerhirfryn.

Roedd 10 tîm ar y safle yn Saddleworth cyn i ddau dân cyfagos ddod at ei gilydd mewn gwyntoedd cryfion ddydd Sadwrn – bellach mae 22 tîm yn brwydro i gadw’r tân o dan reolaeth.

Mae’r heddlu wedi rhybuddio trigolion lleol a modurwyr i gadw draw o’r ardal.

Fe ddigwyddodd y tân cyntaf ddydd Sul diwethaf wrth i’r tymheredd godi ledled gwledydd Prydain.

Dywedodd y gwasanaeth tân fod “amser heriol iawn” o flaen y diffoddwyr i geisio gwarchod adeiladau cyfagos.