Mae o leiaf 30 o bobol wedi cael eu lladd ar ôl i fws gwympo 700 troedfedd oddi ar ochr ffordd fynyddig yng ngogledd y wlad.
Dywedodd llefarydd ar ran llywodraeth talaith Uttarakhand fod y bws wedi llithro cyn glanio mewn ceunant.
Cafodd dwsin o bobol eu hanafu yn y digwyddiad.
Mae’r ymdrechion i achub pobol o leoliad y gwrthdrawiad wedi cael eu heffeithio gan dywydd garw, ond mae gweithwyr wedi dod o hyd i 20 o gyrff hyd yn hyn.
Mae mwy na 110,000 o bobol yn cael eu lladd ar ffyrdd India bob blwyddyn, a gyrru diofal, cyflwr gwael y ffyrdd a hen gerbydau sy’n cael y bai ar y cyfan.