Mae cyn-weinidog Torïaidd a dreuliodd gyfnod dan glo am droseddu ar fin dychwelyd i’r carchar i gychwyn ar yrfa newydd fel caplan.

Cafodd Jonathan Aitken ei garcharu am 18 mis yn 1999 ar ôl cyfaddef dweud celwydd ar lw a gwyrdroi cwrs cyfiawnder.

Fe fydd yn cael ei ordeinio’n ddiacon gan Esgob Llundain yng Nghadeirlan St Paul’s a bydd ei weinidogaeth yn canolbwyntio ar gaplaniaeth carchar.

Fe fu’n Aelod Seneddol Thanet yng Nghaint am dros 20 mlynedd cyn etholiad 1997.