Mae Cyngor Sir Fôn wedi croesawu cyhoeddiad gan Lywodraeth Prydain o gytundeb newydd werth £200 miliwn gyda’r sector niwclear.
Mae’r prosiectau a all elwa ar hyn yn y gogledd yn cynnwys cyfleuster hydrolig thermol i’w leoli ym Mharc Gwyddoniaeth Menai, yn y Gaerwen, a’r posib o ddatblygu Adweithydd Modwlar Bach (SMR) yn Nhrawsfynydd.
Mae’n dilyn cyhoeddiad diweddar fod Llywodraeth Prydain am gychwyn trafodaethau gyda Hitachi am y cynllun i adeiladu gorsaf bŵer niwclear y Wylfa Newydd.
Dywedodd Arweinydd y Cyngor Sir, y Cynghorydd Llinos Medi, “Mae gan y diwydiant niwclear, trwy ddatblygiad y Wylfa Newydd, botensial i drawsnewid economi’r Ynys a Gogledd Cymru’n ehangach. Mae’r cyhoeddiad yma i’w groesawu ac yn atgyfnerthu eto ymrwymiad Llywodraeth y Deyrnas Unedig i niwclear, fel rhan bwysig o gymysgedd ynni ar gyfer y dyfodol.”
Ychwanegodd y deilydd portffolio Prosiectau Mawr a Datblygu’r Economi, y Cynghorydd Carwyn Jones, “Bydd Cronfa’r Sector Niwclear yn arwain at fuddsoddiad mewn pobl a busnesau ar Ynys Môn a gogledd-orllewin Cymru er mwyn sicrhau eu bod yn gallu gwneud y gorau o’r cyfleoedd a ddaw yn sgil adeiladu’r Wylfa Newydd, yr adweithydd bach yn Nhrawsfynydd a phrosiectau eraill gaiff eu datblygu yn y sector niwclear.”