Mae pwyllgor seneddol wedi galw am oedi Brexit, os na fydd trafodaethau â’r Undeb Ewropeaidd yn ddigon llwyddiannus.

Dan y cynlluniau sydd eisoes wedi’u llunio, mae’n bosib na fydd digon o amser i baratoi ar gyfer yr ymadawiad o’r undeb, yn ôl Aelodau Seneddol.

Ac yn eu hadroddiad, mae’r Pwyllgor Brexit wedi galw am Brexit hwyrach os na fydd amodau’n gwella, ac wedi awgrymu y gallai’r cyfnod pontio gael ei ymestyn hefyd.

Mae’r pwyllgor hefyd wedi wfftio’r posibiliad o wledydd Prydain yn gadael heb ddêl, ac wedi galw am ail bleidlais seneddol tros y ddêl.

Trafodaethau

“Roedd y refferendwm dwy flynedd yn ôl, a dyw’r Llywodraeth ddim wedi llwyddo i daro bargen tros y trefniadau tollau maen nhw am eu cael â’u partner masnach agosaf a phwysicaf,” meddai Cadeirydd y Pwyllgor, Hilary Benn.

“Maen nhw’n dweud wrthym fod y rhan fwyaf o’r gwaith ar y cytundeb gadael wedi’i gwblhau. Ond mae’r materion sydd ar ôl, ymhlith yr anoddaf y bydd yn rhaid i’r Prif Weinidog ymrafael â nhw. A dyw’r trafodaethau tros y berthynas yn y dyfodol ddim wedi dechrau go iawn.”