Mae tua 100 o filwyr a hofrennydd Chinook RAF ar eu ffordd i ardal Manceinion i helpu ymladd tân anferth ar weundir Saddleworth i’r gogledd o’r ddinas.

Roedd tua 55 o ddiffoddwyr tân yn dal i geisio rheoli pocedi o fflamau a oedd am ymestyn am filltiroedd neithiwr, nos Fercher.

Mae’r fyddin yn ymateb i alwad am help gan wasanaeth tân ac achub Manceinion.

Fe fydd yr hofrennydd yn gallu helpu diffodd y tân o’r awyr mewn rhannau anodd eu cyrraedd.

Ymysg y problemau sy’n wynebu’r diffoddwyr mae newidiadau yng nghyfeiriad y gwynt, a’r mawn sy’n llosgi ar wres uchel ac sydd felly’n gofyn am llawer iawn o ddwr i’w ddiffodd.

Er bod trigolion lleol a gafodd eu hanfon o’u cartrefi bellach wedi dychwelyd, maen nhw’n cael eu cynghori i gau eu drysau a’u ffenestri i osgoi effeithiau mwg.