Cafodd chwech o gefnogwyr tîm pêl-droed Lloegr eu harestio ym Mryste yn dilyn ffrwgwd y tu allan i dafarn ar ôl buddugoliaeth Lloegr yn erbyn Panama yng Nghwpan y Byd ddydd Sul.
Ffrae rhwng cefnogwyr dau dîm Bryste – City a Rovers – oedd achos y ffrwgwd, yn ôl yr heddlu.
Cafodd cadeiriau, byrddau a hysbysfyrddau eu taflu yn ystod y ffrwgwd, ac mae’r heddlu’n dweud y bydd unrhyw un ynghlwm wrth y digwyddiad yn cael gorchymyn gwaharddiad ac o bosib yn cael eu carcharu.
Fe ddigwyddodd y ffrwgwd am 3.20yp dydd Sul, toc ar ôl buddugoliaeth Lloegr o 6-1, wrth iddyn nhw gyrraedd rownd yr 16 olaf yn Rwsia.
Dywedodd yr heddlu fod y digwyddiad yn un o “drais cyhoeddus annerbyniol”.
Mae’r chwech a gafodd eu harestio wedi’u rhyddhau dan ymchwiliad, ac mae’r heddlu wedi apelio am dystion.