Mae cwpwl o Loegr, a lofruddiodd eu au pair o Ffrainc, wedi cael eu dedfrydu i isafswm o 30 mlynedd o garchar.

Mae Sabrina Kouider, 35 oed, yn gyn-gariad i Mark Walton, a oedd yn aelod o’r grŵp pop enwog yn y 1990au, Boyzone.

Roedd hi a’i phartner, Ouissem Medoui, 40 oed, wedi cyhuddo gofalwraig o Ffrainc, Sophie Lionnet, 21 oed, o gydweithio â’r canwr y tu ôl i’w cefnau.

Fe gafodd y pâr eu canfod yn euog o’i llofruddio yn dilyn achos llys yn yr Old Bailey yn Llundain a ddaeth i ben ddiwedd mis diwetha’.

Clywodd y llys fod y ddau wedi achosi dioddefaint i’r ferch swil o Ffrainc, cyn ei llofruddio mewn bath yn eu cartref ger Wimbledon fis Medi y llynedd.

Fe geisiwyd llosgi’r corff wedyn ar goelcerth yn yr ardd, gyda chymdogion yn galw’r gwasanaethau brys ar ôl arogli aroglau rhyfedd.

Wrth ddedfrydu’r cwpwl i oes o garchar, fe ddywedodd y barnwr fod agwedd y cwpwl yn “deillio o greulondeb erchyll a’r dyhead i ddial”.

Mae’r ddau wedi derbyn lleiafswm o 30 mlynedd yn y carchar.