Mae teulu o Lerpwl yn dweud eu bod nhw’n torri eu calonnau ar ôl i’w ci a chath farw ar ôl cael eu gwenwyno o fewn wythnosau i’w gilydd.

Mae lle i gredu bod Deadpool y gath a Honey y ci gael eu targedu’n fwriadol.

Dywedodd yr RSPCA wrth Maya Mellor a’i theulu eu bod yn ymchwilio i’r posibilrwydd fod yr anifeiliaid wedi bwyta selsig oedd yn cynnwys gwenwyn.

Maen nhw ymhlith sawl anifail sydd wedi marw mewn amgylchiadau amheus neu sydd wedi mynd ar goll yn yr ardal yn ddiweddar.

Dywedodd Maya Mellor: “Mae gen i ddau fachgen ac mae wedi eu heffeithio nhw gymaint.

“Mae’n dorcalonnus, nid yn unig i fy anifeiliaid ond i bawb yn fan hyn sydd ag anifeiliaid sydd wedi mynd ar goll neu wedi marw. Dw i’n teimlo ei fod wedi digwydd yn fwriadol.”

Dywedodd ei bod hi wedi cael ei dihuno am 3 o’r gloch y bore gan floedd ei chath, oedd yn gorwedd ar risiau ei chartref.

Mae’r RSPCA wedi apelio am wybodaeth.