Mae cyn-swyddog yn y fyddin wedi derbyn oes o garchar am geisio lladd ei wraig trwy amharu ar ei pharasiwt.

Mi gafodd Emile Cilliers, sydd erbyn hyn wedi’i wahardd o’r fyddin, ei ddedfrydu am ddau achos o lofruddio ac un achos o ddifrodi falf nwy gyda’r bwriad o niweidio.

Mi ddaeth i’r amlwg ei fod wedi ceisio lladd ei wraig trwy ryddhau nwy yn eu tŷ.

Roedd ei wraig, Victoria Cilliers, wedi cael ei hanafu’n ddifrifol oherwydd diffygion ar ei pharasiwt ar ôl neidio o awyren yn Wiltshire ar Ebrill 5, 2015.

Mi gafodd y cyn-swyddog ei ddedfrydu i leiafswm o 18 mlynedd o garchar yn Llys y Goron Winchester heddiw (dydd Gwener, Mehefin 15).