Mae’r corff sy’n cynrychioli’r cynghorau sir, yn galw ar Lywodraethau Cymru a San Steffan i sicrhau nad yw cymunedau gwledig yn dioddef yn sgîl Brexit.
Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) yn cynrychioli naw cyngor gwledig, ac yn pryderu bod cymunedau’r ardaloedd yma yn “dod yn ail” i gymunedau mwy trefol.
Yn benodol, mae’r corff wedi cyfleu pryder am y sector amaethyddol, cartrefi i bobol ifanc wledig, diffyg swyddi, a safon y rhwydwaith band eang.
Mewn cyfarfod yn Llandrindod yr wythnos hon mi ddaeth aelodau Fforwm Gwledig CLlLC at ei gilydd i godi pryderon am y materion yma.
“Pryderon difrifol”
“Mae Fforwm Gwledig CLlLC diweddar wedi mynegi pryderon difrifol, yn enwedig dros yr ansicrwydd cyfredol ynghylch ariannu datblygiad gwledig a sgiliau yn y dyfodol,” meddai aelod o gyngor CLlLC, Dyfrig Siencyn.
“Er mwyn cynllunio ymlaen llaw yn effeithiol, mae angen i ni wybod pa drefniadau a chyllid fydd yn eu lle wedi i’r DU adael yr UE.”